Cam Paratoi A: Gofynion hylendid bwyd hanfodol

Datganiad 

Cyn i chi roi rheolaethau diogelwch bwyd sy’n seiliedig ar egwyddorion HACCP ar waith, dylech ystyried y gofynion hylendid bwyd sy’n hanfodol ar gyfer eich busnes chi.

Beth yw ystyr gofynion hylendid bwyd hanfodol?

Byddwch yn creu rheolaethau HACCP sy’n benodol i’ch busnes, eich prosesau a’ch cynnyrch chi. Yn ogystal, mae rhai rheolaethau diogelwch bwyd yn gyffredin i’r rhan fwyaf o’r busnesau bwyd. Bydd angen i chi roi’r rheolaethau hyn ar waith cyn i chi roi’r rheolaethau HACCP sy’n benodol i’ch busnes chi ar waith – maen nhw’n hanfodol ar gyfer y system HACCP.

Gall rhai peryglon ddigwydd mewn sawl cam yn y broses (nid ydynt yn benodol i gam penodol yn y broses) neu gallent ddigwydd mewn unrhyw ran o’r sefydliad. Yn aml, mae’r peryglon hyn yn cael eu rheoli gan ofynion hylendid bwyd hanfodol "cyffredinol" (e.e. rheoli plâu, hyfforddiant, arferion hylendid da).

Mae’n hanfodol rheoli’r peryglon hyn cyn rhoi system HACCP ar waith ac felly rydym wedi galw’r mesurau rheoli hyn yn "ofynion hanfodol". Mae’r gofynion hanfodol yn hollbwysig i sicrhau bod yr amodau amgylcheddol a gweithredol sylfaenol yn briodol ac yn addas er mwyn cynhyrchu bwyd diogel.

Os caiff y gofynion hylendid bwyd hanfodol eu rhoi ar waith a’u rheoli’n effeithiol, byddant yn ategu’r system HACCP.

Sut i gyflawni’r cam hwn

Cyn dechrau paratoi astudiaeth HACCP, dylai’r cwmni sicrhau bod y gofynion hylendid bwyd hanfodol yn cael eu rhoi ar waith a’u dilyn er mwyn rheoli’r peryglon cyffredinol.

Ceir rhestr o’r gofynion hylendid bwyd gofynnol arferol yng Ngham Paratoi A (cewch hyd i ragor o wybodaeth amdanynt drwy lawrlwytho’r ddogfen "General requirements to be considered for each prerequisite"). Nid yw’r rhestr yn gyflawn, felly rhaid i chi ystyried rhannau eraill o’r busnes y mae angen eu rheoli. Dylech ychwanegu unrhyw ofynion hylendid bwyd gofynnol eraill y byddwch yn eu pennu at y rhestr.

O ran pob un o’r gofynion hylendid bwyd hanfodol y byddwch yn ei bennu, dylech ystyried y ffactorau a ganlyn, ymhlith ffactorau eraill:

  1. Diffiniwch union bwrpas y gofyniad hanfodol.
  2. Nodwch sut y byddwch yn gwirio’r gofyniad hanfodol, pwy fydd yn gwneud hynny a phryd.

O ran pa mor aml y byddwch yn gwirio’r gofyniad, gall ddibynnu ar natur a maint eich busnes a natur y gofyniad hylendid bwyd hanfodol.

  1. Pa gamau unioni fyddwch chi’n eu cymryd os byddwch yn colli rheolaeth dros ofyniad hylendid bwyd hanfodol?
  2. Pwy fydd yn adolygu’r gofyniad hylendid bwyd hanfodol a pha mor aml fydd yr unigolyn yn gwneud hynny?
  3. Sut fyddwch chi’n cadw cofnod?

Mae disgwyl bod yr holl ofynion hylendid bwyd hanfodol wedi ennill eu plwyf, eu bod yn gweithredu’n llwyr, eu bod wedi’u dogfennu gan gynnwys cadw cofnodion, a’u bod yn cael eu gwirio. Dylech gadw tystiolaeth o effeithiolrwydd y gofynion hylendid bwyd hanfodol.

Rhagor o wybodaeth:

SALSA (Safe and Local Supplier Approval)

PD ISO/TS 22002-1:2009 Prerequisite programmes on food safety. Ar gael i'w brynu.

Campden BRI HACCPa practical guide (Fourth edition), 2009 Guideline no. 42. Ar gael i'w brynu.

Codex Alimentarius Food hygiene (basic textsFourth Edition

Codau Ymarfer Codex – er enghraifft "Chocolate and sugar confectionery code of practice".

Canllawiau priodol y diwydiant