Cam Paratoi B: Cael ymrwymiad gan y rheolwyr

I baratoi system HACCP a’i rhoi ar waith yn effeithiol, mae angen i bawb sy’n ymwneud â pharatoi a thrin eich bwyd neilltuo amser a gwneud ymdrech, nid dim ond y rheiny sy’n ymwneud â llunio’r cynllun HACCP. Felly, dylai’r rheolwyr wneud datganiad clir sy’n cadarnhau eu bod yn cefnogi’r broses. Bydd MyHACCP yn gofyn i chi roi tystiolaeth sy'n dangos bod y rheolwyr wedi gwneud ymrwymiad o’r fath.

Y ffordd orau o ddangos yr ymrwymiad hwn yw llunio datganiad ysgrifenedig clir sy’n cadarnhau bod y rheolwyr yn cefnogi proses HACCP ac yn rhoi awdurdod i’r tîm HACCP. Gellir cyfeirio ato mewn sesiynau briffio a hyfforddi ar gyfer staff. Byddai hefyd yn ddefnyddiol cynnwys manylion yr adnoddau a fydd ar gael ar gyfer y broses.

Gall fod yn well gennych gynnwys yr ymrwymiad i HACCP mewn polisi diogelwch bwyd ehangach sydd ar gael i staff a chwsmeriaid ei weld, er enghraifft ar eich gwefan, a hynny i ddangos eich bod yn benderfynol o lunio a gweithredu system effeithiol i reoli diogelwch bwyd. Gallai busnesau bwyd bach, yn arbennig, ddewis gwneud datganiad o’r fath.

Gallai datganiad o ymrwymiad y rheolwyr gynnwys y prif elfennau a ganlyn:

  • Dyrannu digon o adnoddau staff i gwblhau’r astudiaeth HACCP ac i roi’r system HACCP ar waith.
  • Recriwtio unrhyw staff arbenigol sydd eu hangen i gynorthwyo'r tîm HACCP.
  • Codi ymwybyddiaeth yr holl staff o’r broses HACCP a darparu hyfforddiant digonol i’r rheiny sy’n ymwneud â’r astudiaeth yn uniongyrchol.
  • Nodi’r hyn y bydd aelodau’r tîm rheoli’n ei wneud yn ôl y gofyn.
  • Ymrwymo i wneud penderfyniadau rheoli prydlon yn unol â gofynion y tîm HACCP i hwyluso’r broses o lunio’r cynllun HACCP a’i roi ar waith.
  • Prynu offer ychwanegol yn ôl y gofyn i sicrhau bod y system HACCP yn gweithredu'n effeithiol.