Telerau ac amodau MyHACCP

Drwy ddefnyddio'r adnodd MyHACCP, rydych yn cytuno i'r telerau ac amodau canlynol:

  1. Gallai’r wybodaeth a ddarperir gennych gael ei defnyddio i gynhyrchu ystadegau dienw ar gyfer yr ASB er mwyn i’r Asiantaeth adolygu defnydd o’r adnodd a nodi unrhyw welliannau angenrheidiol.
  2. Gallai’r ASB gyhoeddi data ystadegol dienw sy’n cael ei gymryd o’r wefan hon o bryd i’w gilydd.
  3. Os ydych wedi cytuno i ni gysylltu â chi, mae’n bosibl y bydd yr ASB neu drydydd parti yn cysylltu â chi i ofyn i chi gymryd rhan mewn arolygon neu werthusiad o ddefnydd y wefan hon.
  4. Bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei defnyddio gan yr ASB yn unig, a hynny at ddibenion cynnal asesiad o effeithiolrwydd cyffredinol y wefan a’r gefnogaeth y mae’n ei darparu ar gyfer gweithredu HACCP.