Cam Paratoi G: Llunio diagram llif

Datganiad

Mae’r diagram llif yn dangos yr holl gamau sy’n rhan o’r broses a amlinellwyd yng nghwmpas yr astudiaeth (Cam Paratoi C).

Sut i gyflawni’r cam hwn

Dylai’r tîm HACCP neu’r unigolyn sy’n arwain y gwaith o baratoi’r astudiaeth HACCP lunio diagram llif. Pa bynnag fformat y byddwch yn dewis ei ddefnyddio, dylech gynnwys yr holl gamau sy’n rhan o’r broses a amlinellwyd yng nghwmpas yr astudiaeth.

Gallech ddefnyddio diagram ar ffurf cynllun y ffatri i’ch helpu, ond mae’n hollbwysig eich bod yn gwybod yn union beth sy’n digwydd yno. 

  • Rhestrwch bob cam yn y broses/modiwl, fel rheol o’r adeg y byddwch yn derbyn y deunyddiau crai o leiaf hyd nes i chi ddosbarthu’r cynnyrch neu hyd nes iddo gael ei ddefnyddio. Dylech ystyried:
    • Paratoi
    • Pecynnu
    • Storio
    • Dosbarthu
  • Gallech hefyd ystyried y pethau a ganlyn:
    • Ychwanegu deunyddiau crai (gan gynnwys dŵr)
    • Gwasanaethau (aer, dŵr, stêm)
    • Unrhyw gyfnod pan fydd y cynnyrch yn cael ei storio neu’i gadw dros dro (yn enwedig yn ystod cyfnodau cynhyrchu brig)
    • Ailgylchu/ailweithio
    • Oedi yn y broses

Gwnewch fraslun o lif y cynnyrch ar bapur. Ystyriwch sut y mae’r broses yn cael ei rheoli a beth allai ddigwydd h.y. gweithgareddau dewisol a/neu ysbeidiol.

Gan ddibynnu ar ba mor gymhleth yw’r gweithrediad, gallech gynnwys data technegol perthnasol. Mae’r data hwn yn ddefnyddiol ar gyfer y Pwyntiau Rheoli Critigol y byddwch yn eu pennu maes o law. Gallai data technegol gynnwys:

  • Hyd proses neu ran o broses (e.e. ffrïo am 2 funud ar dymheredd o 1900C neu oeri i <50C mewn 4 awr)
  • Y tymheredd mewn gwahanol rannau o’r broses (e.e. ffrïo am 2 funud ar dymheredd o 1900C neu oeri i <50C mewn 4 awr)
  • Cyflymder y llinell
  • Cynllun o’r llawr, y cyfarpar a’r gwasanaethau
  • Gwahanu gweithrediadau risg isel/uchel
  • Llwybrau personél
  • Amodau llifo hylifau a solidau (psi=pwys fesul modfedd sgwâr neu dymheredd mewn °C)
  • Llifau gwastraff
  • Llwybrau symud deunyddiau crai/cynhwysion

Efallai y bydd gennych beiriant sy’n cyflawni sawl swyddogaeth (e.e. peiriant llenwi poteli sy’n rinsio’r poteli, yn llenwi’r poteli ar sail cyfaint/disgyrchiant/gwactod neu’n boeth ac yn rhoi cloriau ar y poteli). Dylech naill ai gynnwys yr holl swyddogaethau wrth ddisgrifio cam yn y broses NEU nodi pob swyddogaeth fel cam gwahanol yn y broses.

Creu diagram llif

Bydd angen i chi greu fersiwn PDF neu lun (jpeg, jpg neu png) o'ch diagram llif cyn ei lanlwytho i MyHACCP. 

Gallwch greu diagram llif mewn unrhyw ffordd, hyd yn oed â phen a phapur. Mae sawl adnodd ar gael ar y rhyngrwyd i'ch helpu i greu diagram llif.