Cam Paratoi F: Pennu defnydd arfaethedig y cynnyrch

Datganiad

Dylech ddiffinio’r defnyddwyr yr ydych yn ceisio eu targedu i sicrhau bod yr astudiaeth HACCP yn drylwyr. Drwy bennu’r defnyddwyr targed, bydd yn helpu’r tîm HACCP i bennu peryglon eraill a allai fod yn berthnasol i ddefnyddwyr sy’n agored i niwed. 

Sut i gyflawni’r cam hwn

Dylech ddiffinio sut yr ydych yn bwriadu i’r cwsmer neu’r defnyddiwr terfynol ddefnyddio’r cynnyrch. Dylech ddiffinio’r defnyddwyr yr ydych yn ceisio eu targedu er mwyn i chi roi sylw i unrhyw ystyriaethau arbennig. Mewn achosion penodol, gall fod rhaid i chi ystyried pa mor addas yw’r cynnyrch ar gyfer grwpiau penodol o ddefnyddwyr, fel arlwywyr mewn sefydliadau, teithwyr ac ati, ac ar gyfer grwpiau o’r boblogaeth sy’n agored i niwed.

Gofynnwch y cwestiwn a ganlyn: "A oes gan y bobl a fydd yn defnyddio’r cynnyrch ofynion penodol o ran diogelwch bwyd?" Chi sy’n gyfrifol am ddeall eich defnyddwyr targed ac am ddod i wybod mwy am y peryglon (peryglon ffisegol, cemegol a biolegol ac alergenau) sydd o bwys arbennig i’r grŵp/grwpiau sy’n agored i niwed.

Grŵp sy’n agored i niwed Ystyriaethau

Rhai sy’n dioddef alergedd

A ydych yn bwriadu i grwpiau sensitif a all fod ag alergedd i gynhwysion bwyd penodol fwyta neu yfed y cynnyrch?

Gweler Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd (Rheoliad (UE) 1169/2011.

Babanod a phlant ifanc

Mae babanod a phlant ifanc yn grŵp sy’n agored i niwed yn achos diogelwch bwyd. Mae angen i chi ystyried pa beryglon eraill a allai fod yn berthnasol i’r grŵp targed hwn (e.e. math o fwyd, maint y bwyd, peryglon tagu, lefelau mwynau).

Yr henoed

Os bydd pobl hŷn yn defnyddio’r cynnyrch, dylech feddwl am beryglon penodol sy’n berthnasol i’r grŵp hwn. Yn aml, mae oedolion hŷn yn fwy agored i salwch a gludir gan fwyd. Mae’r system imiwnedd yn aml yn gwanhau pan fyddwn yn heneiddio ac mae’r asid yn y stumog hefyd yn lleihau. Mae’r asid yn y stumog yn chwarae rôl bwysig o ran lleihau nifer y bacteria yn ein coluddion a lleihau’r risg o salwch.

Menywod beichiog

Argymhellir y dylai menywod beichiog osgoi bwyta rhai bwydydd oherwydd eu bod yn gallu achosi i’r menywod fod yn sâl neu niweidio’r babi yn y groth.

Pobl ag imiwnedd gwan / sy'n wrthimiwnedd / â diffyg imiwnedd

A fydd pobl ag imiwnedd diffygiol yn defnyddio’r cynnyrch (e.e. pobl sy’n cael cemotherapi neu bobl ag AIDS, babanod sydd wedi’u geni cyn pryd neu bobl sydd wedi cael trawsblaniad sy’n cymryd cyffuriau i atal eu cyrff rhag gwrthod yr organ newydd). Dylech ystyried y ffaith y gallai’r system imiwnedd gael ei hatal rhag ymosod ar ficro-organebau niweidiol mewn bwyd.

Sylwch nad yw’r rhestr hon yn gyflawn

Dylai’r tîm HACCP ystyried pa mor debygol yw hi y bydd y cwsmer neu’r defnyddiwr terfynol yn camddefnyddio’r cynnyrch/yn defnyddio’r cynnyrch yn groes i’r bwriad (gweler y canllawiau o dan Gam Paratoi E). Dylech ystyried a allai’r cynnyrch yr ydych yn ei gynhyrchu gael ei werthu i farchnad ac eithrio’r farchnad arfaethedig.