Beth yw ystyr hyn?
Mae perygl yn rhywbeth sydd â'r potensial i achosi niwed. Mae'r egwyddor hon yn gofyn i chi nodi pob perygl o'r fath a allai ddigwydd yn rhesymol wrth gynhyrchu eich bwyd. Gall peryglon fod yn ffisegol, yn gemegol, yn alergenaidd neu'n ficrobiolegol eu natur ac, yn dibynnu ar faint a chymhlethdod eich busnes bwyd, efallai y bydd angen i chi ystyried pob categori yn ei dro.
Sut i gyflawni’r cam hwn
Dylech chi eisoes fod wedi cwblhau llawer o'r gwaith sylfaenol ar gyfer y cam hwn yng Ngham Paratoi C drwy nodi peryglon perthnasol. Os gwnaethoch chi osgoi'r cam hwn, yna fe'ch anogir i ddychwelyd a'i gwblhau nawr.
Unwaith y byddwch chi wedi llunio rhestr o beryglon perthnasol, dylech chi gyfeirio at eich diagram llif proses (gweler Cam Paratoi G) a gweithio drwy bob cam proses o'r diagram llif mewn ffordd resymegol, gan gofnodi'r peryglon perthnasol ar MyHACCP wrth i chi fynd.
Wrth nodi peryglon dylech chi ystyried:
- Presenoldeb tebygol y perygl mewn deunyddiau crai
- A allai'r perygl gael ei gyflwyno yn ystod cam proses
- Posibilrwydd y bydd perygl yn goroesi, lluosi neu gynyddu mewn amlder mewn cam proses
Beth fydd y canlyniad?
Ar ôl cwblhau'r cam hwn, byddwch chi wedi cwblhau rhestr o beryglon sy'n rhesymol debygol o ddigwydd yn eich bwyd. Gellir ystyried hon fel "rhestr hir" a fydd nawr yn destun proses werthuso i'w lleihau i fod yn "rhestr fer" o beryglon y dylid eu hystyried ymhellach yn yr astudiaeth hon.