Rhaglenni Rhagofynion Gweithredol (OPRPs)

Beth yw Rhagofynion Gweithredol?

Mae'r rhan fwyaf o ragofynion yn gyffredinol eu natur, a'u pwrpas yw sicrhau amgylchiadau hylendid cyffredinol y busnes bwyd. Fodd bynnag, mae’n bosib y nodir trwy astudiaeth HACCP fod rhai rhagofynion yn hanfodol i ddiogelwch bwyd er mwyn rheoli perygl penodol, a chyfeirir at y rhain fel “Rhagofynion Gweithredol” neu “OPR”.

Er enghraifft, gellir nodi bod diheintio darn o offer yn hollbwysig i reoli'r perygl o E.coli o157. Os nad oes mesur rheoli yn ddiweddarach yn y broses i atal y bacteria hyn rhag lledaenu, disgrifir y rhagofyniad hwn fel "rhagofyniad gweithredol" oherwydd ei fod yn hanfodol ar gyfer cynhyrchu bwyd diogel.

Sut mae rhagofynion gweithredol yn cael eu nodi?

Gellir nodi OPRPs trwy ddefnyddio coeden benderfynu.

Enghraifft o goeden benderfynu i nodi Pwyntiau Rheoli Critigol (CCPs)

Mae'r siart lif yn dangos enghraifft o goeden benderfynu i nodi pwyntiau rheoli critigol (CCPs). Mae'r siart yn cynnwys blychau wedi'u labelu sydd wedi'u cysylltu â'i gilydd gan saethau, gan ddangos cyfres o gwestiynau gydag atebion Ie neu Na. Atebwch y cwestiynau mewn trefn i nodi a yw cam penodol yn eich proses yn Bwynt Rheoli Critigol.

Cwestiwn 1. A oes mesur(au) rheoli ataliol?

Oes: Ewch i Gwestiwn 2.

Nac oes A yw mesur rheoli ar y cam hwn yn angenrheidiol ar gyfer diogelwch?

Ydyw: Addaswch y cam, proses neu gynnyrch, wedyn ewch yn ôl i Gwestiwn 1.

Nac ydyw: Nid yw’n CCP. Stopiwch a symud ymlaen i'r perygl nesaf a nodwyd yn y broses a ddisgrifiwyd.

Cwestiwn 2. A yw'r cam wedi'i gynllunio'n benodol i ddileu neu leihau perygl tebygol i lefel dderbyniol?  (Mae angen diffinio lefelau derbyniol ac annerbyniol o fewn yr amcanion cyffredinol wrth nodi CCPs Cynllun HACCP.)

Ydyw: Mae hwn yn Bwynt Rheoli Critigol. Stopiwch yma. Nac ydyw: Ewch i gwestiwn 3.

Cwestiwn 3. A allai halogiad gan y perygl(on) a nodwyd drosgynnu lefelau derbyniol, neu a allent gynyddu i lefelau annerbyniol? (Mae angen diffinio lefelau derbyniol ac annerbyniol o fewn yr amcanion cyffredinol wrth nodi CCPs Cynllun HACCP.)

Gallai: Ewch i gwestiwn 4

Na allai: Nid yw’n CCP. Stopiwch a symud ymlaen i'r perygl nesaf a nodwyd yn y broses a ddisgrifiwyd.

Cwestiwn 4. A fydd cam dilynol yn dileu'r perygl(on) a nodwyd neu yn lleihau'r tebygolrwydd y gallent ddigwydd i lefel dderbyniol? (Mae angen diffinio lefelau derbyniol ac annerbyniol o fewn yr amcanion cyffredinol wrth nodi CCPs Cynllun HACCP.)

Bydd: Nid yw’n CCP. Stopiwch a symud ymlaen i'r perygl nesaf a nodwyd yn y broses a ddisgrifiwyd.

Na fydd: Mae hwn yn Bwynt Rheoli Critigol. Stopiwch yma.

Cymharu Rhaglenni Rhagofynion Gweithredol (PRPs), Rhaglenni Rhagofynion Gweithredol (OPRPs) a Phwyntiau Rheoli Critigol (CCPs)

Mae'r tabl hwn yn cymharu gwahanol fathau o fesurau rheoli. Daw’r wybodaeth o Hysbysiad y Comisiwn (2016/C 278/01) [1] ar weithredu systemau rheoli diogelwch bwyd.

Yn y tabl hwn mae "camau cywiro" yn golygu cam gweithredu i ddileu achos o ddiffyg cydymffurfio a nodwyd neu sefyllfa annymunol arall, tra bod "cywiro" yn golygu cam gweithredu i ddileu diffyg cydymffurfiaeth a a nodwyd. 

Tabl cymhariaeth

Math o fesur rheoli

Rhaglen Rhagofynion (PRP)

Rhaglen Rhagofynion Gweithredol (OPRP)

Pwynt Rheoli Critigol (CCP)

Cwmpas

Mesurau sy’n ymwneud â chreu’r amgylchedd ar gyfer bwyd diogel; mesurau sy’n effeithio ar gynaliadwyedd a diogelwch bwyd

Mesurau sy’n ymwneud â’r amgylchedd a/neu gynnyrch (neu gyfuniad o fesurau) i atal halogiad neu i atal, dileu neu leihau peryglon i lefel dderbynion yn y cynnyrch terfynol. Mae’r mesurau hyn yn cael eu gweithredu ar ôl gweithredu PRPs.

O ran OPRP: Mesurau sy’n ymwneud â’r amgylchedd a/neu gynnyrch (neu gyfuniad o fesurau) i atal halogiad neu i atal, dileu neu leihau peryglon i lefel dderbynion yn y cynnyrch terfynol. Mae’r mesurau hyn yn cael eu gweithredu ar ôl gweithredu PRPs.

Perthynas â pheryglon

Ddim yn benodol i unrhyw berygl

Yn benodol i bob perygl neu grŵp o beryglon

O ran OPRP: Yn benodol i bob perygl neu grŵp o beryglon

Penderfyniad

Datblygiad yn seiliedig ar y canlynol:

  • Profiad
  • • Dogfennau cyfeirio (fel canllawiau neu gyhoeddiadau gwyddonol)
  • Peryglon neu ddadansoddi peryglon

Yn seiliedig ar ddadansoddi peryglon gan ystyried PRPs. Mae’r CCPs a’r OPRPs yn benodol i gynhyrchion/yn benodol i brosesau

O ran OPRP: Yn seiliedig ar ddadansoddi peryglon gan ystyried PRPs. Mae’r CCPs a’r OPRPs yn benodol i gynhyrchion/yn benodol i brosesau

Dilysu

Ddim wedi’i gynnal o reidrwydd gan y Gweithredwr Busnes Bwyd (FBO) Er enghraifft, mae gweithgynhyrchwr nwyddau glanhau wedi dilysu effeithlonrwydd y cynnyrch a phennu sbectrwm y cynnyrch a chyfarwyddiadau ar gyfer ei ddefnyddio – rhaid i’r FBO ddilyn y cyfarwyddiadau a chadw manylebau technegol y cynnyrch.

 

Mae rhaid i ddilysu gael ei gyflawni (mewn nifer o achosion, mae canllawiau arferion da yn darparu canllawiau ar fethodoleg ddilysu neu’n rhoi deunydd dilysu parod i’w defnyddio)

O ran OPRP: Mae rhaid i ddilysu gael ei gyflawni (mewn nifer o achosion, mae canllawiau arferion da yn darparu canllawiau ar fethodoleg ddilysu neu’n rhoi deunydd dilysu parod i’w defnyddio)

Meini Prawf

Dim meini prawf

Meini prawf mesuradwy neu arsylladwy

Terfyn critigol mesuradwy

Math o fesur rheoli

Rhaglen Rhagofynion (PRP)

Rhaglen Rhagofynion Gweithredol (OPRP)

Pwynt Rheoli Critigol (CCP)

Monitro

Lle bo'n berthnasol a dichonadwy

Monitro gweithredu’r mesurau rheoli: fel arfer yn eu cofnodi

O ran OPRP: Monitro gweithredu’r mesurau rheoli: fel arfer yn eu cofnodi

Colli rheolaeth:

Cywiriadau neu Gamau Cywiro

Camau cywiro a/neu gywiriadau i PRPs lle bo’n briodol

Camau cywiro ar gyfer y broses. Cywiriadau posib i’r cynnyrch (fesul achos)

Cofnodion wedi’u cadw.

Cywiriadau ymlaen llaw i’r cynnyrch. Camau cywiro posib ar gyfer y broses

Cofnodion wedi’u cadw.

Gwirio

Gwiriadau wedi’u cynllunio ar gyfer gweithredu

 

Gwiriadau wedi’u cynllunio ar gyfer gweithredu, gwirio llwyddiant rheolaethau peryglon wedi’u cynllunio

 

O ran OPRP: Gwiriadau wedi’u cynllunio ar gyfer gweithredu, gwirio llwyddiant rheolaethau peryglon wedi’u cynllunio