Gofynion cyffredinol i'w hystyried ar gyfer pob rhagofyniad

Dyma restr o ofynion i’w hystyried ar gyfer pob rhagofyniad. Sylwer bod y gofynion a nodir yn gryno, ac eu bod i’w defnyddio fel canllaw yn unig. Mae yna lawer o ffactorau eraill y bydd angen eu hystyried i sicrhau bod gennych chi reolaeth lwyr dros y rhagofyniad.

Gellir cael rhagor o wybodaeth o ISO22000, ISO22002-1, BRC Fersiwn 7, BRC Canllawiau Arferion Gorau (e.e. Rheoli Plâu, Archwiliad mewnol), Egwyddorion Cyffredinol Hylendid Bwyd Codex Alimentarius.

Lleoliad y sefydliadau bwyd

Dylid cynnal asesiad o effaith busnesau cyfagos ar y sefydliad bwyd, ac yn benodol mewn perthynas â ffynonellau halogiad posib. Mae hyn yn arbennig o bwysig lle bo cyfleusterau a rennir fel toiledau, iardiau nwyddau a ffreuturau.

Cynllun a dyluniad safle bwyd

Yn benodol, dylid nodi mannau croeshalogi posib rhwng bwyd amrwd a bwyd parod i’w fwyta a chael gwared arnynt drwy lunio cynllun safle priodol. Er enghraifft, lle bynnag y bo modd, dylid trin bwydydd amrwd mewn ystafelloedd ar wahân i fwydydd parod i'w bwyta. Lle nad yw hyn yn bosib, dylid nodi mannau clir ar wahân o fewn yr un ystafell, a dim ond pan nad yw hyn yn bosib y dylid ystyried mesurau rheoli i reoli'r perygl.

Strwythur a chyflwr safleoedd bwyd

Dylai strwythurau mewn sefydliadau bwyd fod wedi'u hadeiladu'n gadarn o ddeunyddiau gwydn, a dylent fod yn rhwydd eu cynnal a'u cadw, yn lân a, lle bo'n briodol, dylid bod yn gallu eu diheintio.

Rheoli alergenau bwyd

Dylid rhoi sylw i'r 14 alergen bwyd a restrir yn Atodiad II i Reoliad (EU) 1169/2011. Lle bynnag y bo modd, dylid osgoi cynnwys yr alergenau hyn yn fformiwleiddiad cynhyrchion. Dylai cynhwysion bwyd sy’n cynnwys yr alergenau hyn gael eu rheoli’n ofalus, a dylai bwydydd eraill nad ydynt yn alergaidd gael eu diogelu rhag croeshalogi.

Rheoli tymheredd

Gan ddibynnu ar natur y gweithrediadau bwyd yr ymgymerir â nhw, dylai cyfleusterau digonol fod ar gael ar gyfer gwresogi, oeri, coginio, oereiddio a rhewi bwyd, ar gyfer storio bwydydd wedi’u rhewi, a monitro tymereddau bwyd a, lle bo angen, reoli tymereddau amgylchol i sicrhau diogelwch ac addasrwydd bwyd.

Rheoli gwastraff

Rhaid gwneud darpariaeth addas ar gyfer symud a storio gwastraff. Nid chewch adael i wastraff gronni wrth drin bwyd ac wrth storio bwyd, nac mewn mannau gweithio eraill a’r amgylchedd cyfagos ac eithrio i’r graddau y bo’n anochel ar gyfer gweithredu priodol y busnes.

Rheoli cyflenwyr

Lle bynnag y bo modd, dylid prynu cynhwysion a chyflenwadau gan gyflenwyr ag enw da. Fel arfer dim ond o sefydliadau cymeradwy y dylid caffael cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid fel cig, pysgod, cynnyrch llaeth ac ati. Dylai’r sefydliadau hyn fod wedi’u cymeradwyo gan yr awdurdod bwyd priodol a dwyn y nodau priodol ar gyfer iechyd (ar gyfer carcasau cig ffres) neu nodau adnabod (ar gyfer mathau eraill o gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid).

Deunydd pecynnu

Dylai deunydd pecynnu fod yn addas i’r diben, a dylid ystyried y modd y caiff deunydd pecynnu ei storio er mwyn lleihau’r risg o halogiad a dirywiad.

Manylebau deunyddiau sy'n dod i mewn

Dylai fod manylebau ar gyfer yr holl ddeunyddiau crai sy’n dod i mewn (gan gynnwys deunydd pecynnu) neu wasanaethau a allai effeithio ar y cynnyrch gorffenedig, a dylent fod yn weithredol.

Manylebau cynhyrchion gorffenedig

Dylai fod manylebau ar gyfer pob cynnyrch gorffenedig, a dylent fod yn weithredol.

Hyfforddiant

Dylai’r holl aelodau staff sy’n trin bwyd gael eu goruchwylio a’u cyfarwyddo a/neu fod wedi’u hyfforddi o ran materion hylendid bwyd i raddau sy’n gymesur â’u gwaith. Dylai'r rheiny sy'n gyfrifol am ddatblygu a chynnal HACCP fod wedi cael hyfforddiant digonol ar gymhwyso egwyddorion HACCP.

Gwasanaethau contract (fel gwaredu gwastraff neu olchi dillad)

Dylai systemau fod ar waith i sicrhau bod unrhyw wasanaethau contract a ddefnyddir yn bodloni gofynion eich busnes. Dylid ystyried atal halogi cynhyrchion neu fannau cynhyrchu.

Rheoli Plâu

Dylai gweithdrefnau digonol fod ar waith i atal plâu rhag mynd i mewn i adeiladau ac angorfeydd. Yn benodol, dylid cymryd camau i atal halogiad bwyd gan blâu.

Rheoli gwydr a phlastig

Os yw'n bosib, dylid cadw gwydr neu ddeunyddiau brau eraill y tu allan i safleoedd neu fannau gwaith. Lle bônt yn bresennol, dylid cymryd camau i ddiogelu’r rhain rhag cael eu torri, gyda mwy o bwyslais ar fannau lle bo risg uwch o halogi’r cynnyrch.

Graddnodi

Rhaid i unrhyw offer a ddefnyddir ar gyfer mesur a monitro fod yn ddigon cywir a dibynadwy i roi hyder yn y canlyniadau.

Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs)

Dylai'r cwmni weithredu yn unol â gweithdrefnau a/neu gyfarwyddiadau gwaith wedi’u dogfennu sy'n sicrhau y cynhyrchir cynhyrchion diogel a chyfreithlon gyda’r nodweddion ansawdd dymunol, gan gydymffurfio’n llawn â chynllun diogelwch bwyd HAACP.

Dosbarthu

Ni ddylai cerbydau a chynwysyddion a ddefnyddir i gludo cynhyrchion beri risg i ddiogelwch nac ansawdd y cynhyrchion.

Galw cynnyrch yn ôl

Dylai gweithdrefnau effeithiol fod ar waith i ymdrin ag unrhyw beryglon diogelwch bwyd ac i alluogi galw unrhyw lot o’r bwyd gorffenedig yr effeithir arni yn ôl yn llwyr ac yn gyflym o’r farchnad. Pan fo bwyd anniogel wedi gadael rheolaeth gychwynnol y busnes, dylid rhoi gwybod i’r Asiantaeth Safonau Bwyd neu’r awdurdod lleol priodol.

Rheoli dogfennau

Dylai fod system ar waith i sicrhau taw dim ond y fersiynau diweddaraf o ddogfennau a ffurflenni sydd ar gael ac yn cael eu defnyddio.

Amserlen archwilio (gan gynnwys HACCP/archwiliadau mewnol)

Dylech allu dangos eich bod yn gwirio cymhwysiad effeithiol y cynllun diogelwch bwyd.

Cwynion gan gwsmeriaid

Dylid mynd i'r afael â chwynion gan gwsmeriaid yn effeithiol a'u dadansoddi. Dylid defnyddio'r wybodaeth a gesglir i dargedu problemau a arweiniodd at y gŵyn, gyda'r bwriad o leihau problemau sy'n codi dro ar ôl tro.

Olrhain achosion o ddiffyg cydymffurfio

Dylai gweithdrefnau nodi’r camau gweithredu angenrheidiol i nodi a dileu gwreiddyn y diffyg cydymffurfio. Dylid cofnodi pob cywiriad – mae angen y wybodaeth hon at ddibenion olrheiniadwyedd.

Rheolaethau microbiolegol

Dylid cynnal archwiliadau a dadansoddiadau sy'n hanfodol i gadarnhau diogelwch, cyfreithlondeb ac ansawdd y cynnyrch gan ddefnyddio gweithdrefnau, cyfleusterau a safonau priodol.

Cynnal a chadw ataliol

Dylai fod rhaglen cynnal a chadw effeithiol ar waith ar gyfer y ffatri a’i chyfarpar. Dylai'r gweithgareddau a gyflawnir atal halogiad a lleihau'r posibilrwydd y bydd peiriannau’n torri i lawr.

Olrheiniadwyedd

Dylai fod y cyfryw systemau ar waith fel bod pob lot cynnyrch crai (gan gynnwys deunydd pecynnu) yn gallu cael ei holrhain o’r cyflenwr trwy bob cam prosesu hyd ei dosbarthu i’r cwsmer ac i’r gwrthwyneb (hynny yw, olrheiniadwyedd o’r cwsmer yn ôl at gyflenwyr y deunyddiau crai).

Cyfleustodau (aer, dŵr, ynni)

Dylid cynllunio llwybrau dosbarthu ar gyfer cyfleustodau i leihau'r risg o halogiad.

Glanhau a chynnal a chadw cyfarpar, a’i addasrwydd

Dylai cyfarpar a chynwysyddion sy’n dod i gysylltiad â bwyd fod wedi’i gynllunio fel y gellir ei lanhau, ei ddiheintio a’i gynnal a’i gadw yn ddigonol i osgoi halogi bwyd, lle bo’n angenrheidiol.

Mesurau i atal croeshalogi

Dylai fod systemau ar waith i atal, rheoli a chanfod halogiad (fel halogiad ffisegol, halogiad cemegol, alergenau a halogiad microbiolegol).

Glanhau a diheintio

Dylid darparu cyfleusterau addas, wedi’u dynodi’n briodol, ar gyfer glanhau bwyd, offer cegin a chyfarpar. Dylai fod gan gyfleusterau o’r fath gyflenwad digonol o ddŵr yfed poeth ac oer lle bo’n briodol. Lle bo angen, dylid datblygu a gweithredu gweithdrefnau diheintio addas.

Hylendid personél a chyfleusterau gweithwyr

Mae arferion hylendid da yn bwysig. Dylai staff ddeall y risg o groeshalogi cynhyrchion bwyd a chymryd camau priodol i leihau'r risg hon. Dylai'r holl bersonél, ymwelwyr a chontractwyr gydymffurfio ag unrhyw ofynion hylendid personol.

Ailweithio

Wrth ailweithio cynnyrch, mae’n bwysig ei fod yn cael ei ddefnyddio, ei storio a’i drin mewn ffordd nad yw’n peryglu diogelwch, ansawdd, olrheiniadwyedd na chydymffurfiaeth reoleiddiol cynnyrch.

Storio mewn warws

Dylai cyfleusterau storio deunyddiau crai (gan gynnwys deunydd pecynnu), cynnyrch fel y bo yn ystod y broses gynhyrchu, a chynhyrchion gorffenedig fod yn addas i'r diben ac ni ddylent beri unrhyw risg o halogiad.

Gwybodaeth am gynnyrch/ymwybyddiaeth defnyddwyr

Rhaid cyflwyno gwybodaeth i ddefnyddwyr yn unol â’r Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd.

Amddiffyn bwyd, gan gynnwys bio-wyliadwriaeth a bioderfysgaeth

Dylid asesu’r perygl a berir i gynnyrch gan danseilio, fandaliaeth neu derfysgaeth, a lle bo angen dylid rhoi mesurau ar waith i leihau’r risg hon.

Rheoli halogiad

Bydd cyfleusterau a gweithdrefnau priodol ar waith i reoli'r risg o halogiad gan beryglon (cemegol, biolegol, ffisegol ac alergenau).

Dychwelyd i'r gwaith

Dylid cymryd camau i leihau'r risg o gynnyrch yn cael ei halogi gan bersonél wrth ddychwelyd i'r gwaith.