Egwyddor 6: Gwirio

Datganiad

Gwirio yw’r egwyddor sy’n cadarnhau y byddwch yn cynhyrchu bwyd diogel ar gyfer y cwsmer terfynol os caiff y cynllun HACCP ei ddilyn.

Sut i gyflawni’r cam hwn

Mae i Egwyddor 6: Gwirio dair rhan.

  1. Dilysu – 'A fydd y cynllun HACCP yn sicrhau ein bod yn cynhyrchu bwyd diogel?'
  2. Gwirio – 'A yw’r cynllun HACCP yn gweithio? A yw’n cynhyrchu bwyd diogel?'
  3. Adolygu – 'A yw’r cynllun HACCP yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd?'

Ystyr 'gwirio' (yn gyffredinol – y tair rhan) yw edrych ar y system HACCP i sicrhau ei bod wedi’i llunio’n gywir a bod y busnes yn dilyn y cynllun HACCP, yn enwedig o ran cadw rheolaeth ar y Pwyntiau Rheoli Critigol. Mewn geiriau syml, ystyr gwirio yw cyflawni profion, gwneud yn siŵr bod y busnes yn ymlynu wrth y gweithdrefnau ac adolygu’r system HACCP i sicrhau bod y busnes yn cynhyrchu bwyd diogel.

Dilysu

Dyma'r broses o gael gafael ar dystiolaeth sy’n dangos bod elfennau’r cynllun HACCP yn effeithiol.

Cyn rhoi’r cynllun HACCP ar waith, rhaid dilysu cynnwys y cynllun i sicrhau y bydd y cynllun HACCP yn sicrhau bod y busnes yn cynhyrchu bwyd diogel. Prif ffocws y gweithgaredd hwn yw sicrhau bod y peryglon a bennwyd yn gyflawn ac yn gywir, a bod rheolaethau addas ar waith ar eu cyfer (a’u bod yn cael eu rheoli’n effeithiol os yw’r rheolaethau penodedig yn cael eu dilyn) h.y. cadarnhau bod y Pwyntiau Rheoli Critigol wedi’u pennu’n gywir a’u bod yn gwarantu bod y bwyd yn ddiogel.

Gallai gweithgareddau dilysu gynnwys:

  • Cyflawni profion i herio’r cyfarpar/peiriannau
  • Cyflawni treialon arbrofol e.e. gwerthuso’r cyfarpar o safbwynt thermol, ar dymheredd uwch neu dymheredd is
  • Modelu mathemategol

Ymhlith y mannau eraill lle gellir cael gafael ar wybodaeth i ategu unrhyw astudiaeth ddilysu mae:

  • Adolygiadau o ddogfennau
  • Deddfwriaeth – cadarnhau bod y cynllun HACCP yn bodloni’r gofynion cyfreithiol o ran diogelwch bwyd
  • Codau ymarfer
  • Arferion da cydnabyddedig

Dylech sicrhau bod y personél sy’n cyflawni’r gweithgareddau’n meddu ar gymwysterau priodol, eu bod wedi cael hyfforddiant priodol a bod ganddynt brofiad priodol h.y. eu bod yn gymwys i gyflawni’r gweithgareddau dilysu.

Gweithgareddau gwirio

Dyma'r broses o roi dulliau, gweithdrefnau, profion a gwerthusiadau eraill ar waith, yn ychwanegol at y gweithgareddau monitro, i gadarnhau bod y busnes yn parhau i gydymffurfio â’r cynllun HACCP.

Gan ddibynnu ar y math o gynnyrch a maint y busnes, gall gweithgareddau gwirio gynnwys:

  • Archwiliadau mewnol
  • Archwiliadau allanol o’r cyflenwyr
  • Profion samplu ac archwiliadau cemegol neu ficrobiolegol
  • Gwerthuso adborth gan gwsmeriaid, gan gynnwys cwynion
  • Profi’r deunydd crai neu’r cynnyrch terfynol
  • Dadansoddi’r rheolaethau, y gweithgareddau monitro a’r camau unioni a chadarnhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn gywir
  • Dadansoddi unrhyw wyriad oddi wrth y terfynau critigol
  • Sicrhau bod yr elfennau hanfodol o dan reolaeth
  • Sicrhau bod y personél sy’n cyflawni’r gweithgareddau gwirio’n meddu ar gymwysterau priodol, eu bod wedi cael hyfforddiant priodol a bod ganddynt brofiad priodol h.y. eu bod yn gymwys i gyflawni’r gweithgareddau gwirio 

Adolygu

Dylai’ch cynllun HACCP fod yn gyfoes bob amser a dylai gael ei ddiweddaru pan fydd unrhyw newid yn digwydd. Ystyr newid yw unrhyw beth yn y cynllun HACCP sy’n wahanol i’r adeg y cafodd yr astudiaeth ddiwethaf ei chyflawni.

Dylech bennu dyddiad i adolygu’r cynllun a sicrhau bod adolygiad yn cael ei sbarduno os bydd unrhyw newid.

Adolygiad a sbardunwyd – cyn unrhyw newid

Dylech gynnwys ffactorau yn y cynllun a fyddai’n sbarduno adolygiad.

Dyma rai enghreifftiau:

  • Newidiadau i’r deunyddiau crai neu i’r wybodaeth am y cynnyrch
  • Cyflwyno cynnyrch newydd
  • Newid cyflenwr deunyddiau crai
  • Newid yn y system brosesu
  • Newid cynllun y safle neu’r amgylchedd
  • Addasu cyfarpar y broses neu gael cyfarpar newydd
  • Y system yn methu e.e. cam unioni neu alw cynnyrch yn ôl
  • Rhagweld newid o ran cwsmeriaid neu ddefnyddwyr
  • Unrhyw adroddiad o’r farchnad sy’n dangos bod y cynnyrch yn peri risg i iechyd neu fod risg y bydd y cynnyrch yn dirywio
  • Pathogen newydd a gludir gan fwyd yn dod i’r amlwg (e.e. bacteria sy’n achosi salwch) sy’n arwyddocaol o ran iechyd y cyhoedd neu fater arall sy’n gysylltiedig ag iechyd
  • Newidiadau i’r ddeddfwriaeth

Adolygiad a drefnwyd

  • Ym mhob cynllun HACCP, dylid nodi pryd y bydd yn cael ei adolygu; dylid gwneud hynny ar adeg benodedig hyd yn oed os nad oes unrhyw beth wedi newid. Dylid adolygu’r cynllun o leiaf unwaith bob blwyddyn a dylid adolygu pob rhan o’r cynllun HACCP. Dylid cofnodi unrhyw newidiadau a chyflawni dadansoddiad risg i sicrhau bod y cynllun HACCP yn dal i sicrhau bod y busnes yn cynhyrchu bwyd diogel.

Ar ôl cyflawni adolygiad, rhaid cofnodi’r adolygiad hyd yn oed os nad oes unrhyw beth wedi newid. Mae angen i’r rheini sy’n gyfrifol am gyflawni’r adolygiad (y tîm HACCP fel arfer mewn busnes mawr) sicrhau nad yw’r newid arfaethedig yn effeithio’n andwyol ar y casgliadau y daethpwyd iddynt yn yr astudiaeth HACCP nac yn peryglu diogelwch y cynnyrch. Dylent hefyd sicrhau bod yr astudiaeth HACCP yn cael ei diweddaru’n rheolaidd.

Dogfennau a chofnodion

Dylid cadw cofnodion astudiaethau dilysu a gwirio fel tystiolaeth eu bod wedi’u cyflawni’n llwyddiannus ac i gefnogi unrhyw amddiffyniad diwydrwydd dyladwy.