Egwyddor 5: Llunio cynllun camau unioni

Datganiad

Dylech gofnodi unrhyw gamau i’w cymryd pan fydd y canlyniadau monitro’n dangos bod Pwynt Rheoli Critigol wedi gwyro oddi wrth y terfyn critigol (gan ddangos eich bod wedi colli rheolaeth). Yn ogystal, gallwch bennu camau unioni llai llym ar gyfer lefelau targed.

Sut i gyflawni’r cam hwn

Rhaid i chi benderfynu pa gamau unioni a gaiff eu cymryd os bydd canlyniadau monitro unrhyw Bwynt Rheoli Critigol yn dangos eich bod wedi methu â bodloni’r terfyn critigol, a rhaid i chi gofnodi’r camau hynny. Rhaid i’r camau a gymerir sicrhau eich bod yn adennill rheolaeth dros y Pwynt Rheoli Critigol.

Pan fyddwch yn penderfynu ar gamau unioni ar gyfer Pwynt Rheoli Critigol, dylech ystyried y cwestiynau a ganlyn:

  1. Beth fyddwch chi’n ei wneud ar unwaith?

Meddyliwch am yr angen i stopio’r broses, i roi’r cynnyrch mewn cwarantin, i addasu’r cyfarpar yn gyflym (e.e. codi’r tymheredd), a'r camau y gallech eu cymryd os cewch hyd i arferion annerbyniol.

  1. Beth fyddwch chi’n ei wneud ag unrhyw gynnyrch a gynhyrchwyd ers y prawf monitro da diwethaf? Gall fod yn cael ei storio/aros i gael ei ddosbarthu. Nid yw hyn yn cynnwys galw’r cynnyrch yn ôl oherwydd dylai’r gweithgareddau monitro fod yn ddigonol i sylwi ar broblem cyn i’r cynnyrch adael y safle.

Meddyliwch am yr angen i roi unrhyw gynnyrch a gynhyrchwyd ers y prawf monitro da diwethaf mewn cwarantin h.y. cynnyrch a gynhyrchwyd o dan amodau lle nad oedd gennych reolaeth, gwaredu’r cynnyrch.

  1. Beth fyddwch chi’n ei wneud yn y dyfodol?

Ystyriwch ailweithio’r cynnyrch os yw’n briodol, cyflawni ymchwiliad (adolygu’r rheswm dros golli rheolaeth a’i unioni i sicrhau nad yw’n digwydd eto), gwaredu’r cynnyrch.

  1. Ystyriwch pwy sy’n gyfrifol am y camau uchod – er enghraifft, pwy sydd wedi’i awdurdodi i waredu/ailweithio’r cynnyrch neu i gymryd y camau unioni priodol.
  1. Ystyriwch gymhwysedd y personél sydd ynghlwm wrth unrhyw un o’r gweithgareddau uchod a’r hyfforddiant y maent wedi’i gael.

Dogfennau a chofnodion

Cofnodwch y camau unioni i’w cymryd pan fydd Pwynt Rheoli Critigol tu hwnt i’r terfyn critigol a phwy sy’n gyfrifol am y camau hyn neu gamau eraill, fel gwaredu neu ailweithio’r cynnyrch. Rhaid cadw cofnodion perthnasol, gan gynnwys cofnodion hyfforddi a’r hyn a ddigwyddodd i’r swp o gynnyrch yr oedd y camau unioni’n effeithio arno.

Mewn system drefnus, dylai fod modd i chi lunio gweithdrefn sy’n cynnwys manylion y cam unioni a phwy sy’n meddu ar yr awdurdod i awdurdodi’r cam unioni.

Adolygu

Dylech bennu dyddiad i adolygu’r Egwyddor hon, a dylech sicrhau bod adolygiad yn cael ei sbarduno os bydd unrhyw newid yn digwydd o fewn y busnes (gweler Egwyddor 6).