Datganiad
Y weithred o gynnal dilyniant penodedig o arsylwadau neu fesuriadau o baramedrau rheoli i asesu p’un a yw Pwynt Rheoli Critigol dan reolaeth yw monitro.
Sut i gyflawni’r cam hwn
Mae’r system fonitro’n disgrifio’r dulliau sy’n sicrhau bod modd i’r busnes gadarnhau bod pob Pwynt Rheoli Critigol yn gweithredu o fewn y terfyn critigol a bennwyd.
Rhaid bod modd i’r gwaith monitro ganfod eich bod wedi colli rheolaeth ar Bwynt Rheoli Critigol a sicrhau canlyniadau cyflym. Dylid sicrhau bod modd i chi gymryd camau unioni mewn pryd i adennill rheolaeth dros y broses tra mae’r cynnyrch yn dal i fod o dan eich rheolaeth.
Enghreifftiau: Ar-lein – amser, tymheredd
All-lein – halen, pH, Aw, cyfanswm y solidau
Yn gyffredinol, nid yw profion microbiolegol yn addas fel gweithgareddau monitro, a hynny oherwydd nad yw’r canlyniadau ar gael yn gyflym. Nid yw’r profion cyflymaf hyd yn oed yn darparu canlyniadau ar unwaith. Mae profion microbiolegol yn ddefnyddiol fel gweithgaredd gwirio (gweler Egwyddor 6).
Systemau Monitro Parhaus e.e. cofnodi tymheredd y broses ar thermograff
Systemau Monitro Ysbeidiol e.e. casglu samplau a’u dadansoddi, fel pH
Rhaid sicrhau bod y samplau’n cynrychioli swmp y cynnyrch.
Pan fyddwch yn dewis system fonitro, rhaid i’r unigolyn/unigolion cyfrifol sicrhau bod y canlyniadau’n uniongyrchol berthnasol i’r Pwynt Rheoli Critigol, a’u bod yn deall unrhyw gyfyngiadau’n llwyr ac yn cofnodi’r cyfyngiadau hynny.
Rhaid calibro unrhyw gyfarpar monitro a sicrhau ei fod yn gweithio’n gywir.
Dogfennau a chofnodion
Cofnodwch pwy fydd yn cyflawni pob gweithgaredd monitro (rhowch deitl y swydd neu enw). Gwnewch yn siŵr eu bod yn gymwys i wneud hynny a’u bod wedi cael hyfforddiant sy’n addas ar gyfer y dasg. Dylech roi disgrifiad manwl o’r union ffordd y dylid cyflawni’r gweithgaredd monitro. Rhaid bod ganddynt wybodaeth ac awdurdod i gyflawni’r cam unioni gofynnol os nad yw’r terfyn critigol yn cael ei fodloni. Dylech gadw cofnodion o’r hyfforddiant a’r asesiadau cymhwysedd.
Dylech gofnodi pa baramedr rheoli (h.y. tymheredd, llif, pH) a fydd yn cael ei asesu, sut y bydd y gweithgaredd monitro’n cael ei gyflawni a pha mor aml y dylid ei gyflawni. O ran pa mor aml y dylid cyflawni’r gweithgaredd, nodwch a yw’n barhaus neu’n ysbeidiol. Os yw’n ysbeidiol, nodwch yn union pa mor aml y bydd y gweithgaredd monitro’n cael ei gyflawni. Gwnewch yn siŵr bod hyn yn ddigonol i gadarnhau eich bod yn cadw rheolaeth ar y Pwynt Rheoli Critigol. Dylai fod gennych fanylebau, gweithdrefnau a chyfarwyddiadau gwaith i ategu’ch systemau monitro.
Dylai’r cofnodion monitro gynnwys y dyddiad a’r amser y cafodd y gweithgaredd ei gyflawni a’r canlyniad.
Rhaid i’r unigolyn/unigolion sy’n gyfrifol am gyflawni’r gweithgaredd monitro a, lle bo modd, unigolyn enwebedig arall sy’n gyfrifol am adolygu’r canlyniadau monitro (Rheolwr fel rheol) lofnodi pob cofnod a phob dogfen sy’n gysylltiedig â monitro Pwyntiau Rheoli Critigol.
Adolygu
Dylech bennu dyddiad i adolygu’r Egwyddor hon, a dylech sicrhau bod adolygiad yn cael ei sbarduno os bydd unrhyw newid yn digwydd o fewn y busnes (gweler Egwyddor 6).