Datganiad
Uchafswm neu isafswm y mesur rheoli ar Bwynt Rheoli Critigol er mwyn atal, dileu neu leihau perygl i lefel dderbyniol yw terfyn critigol. Mae’n gwahanu cynnyrch derbyniol (diogel) oddi wrth gynnyrch annerbyniol (anniogel).
Sut i gyflawni’r cam hwn
Pan fyddwch wedi pennu Pwyntiau Rheoli Critigol y cynnyrch/y broses/y modiwl yr ydych yn ei (h)astudio, dylech bennu terfynau critigol ar gyfer y mesur(au) rheoli ar bob Pwynt Rheoli Critigol.
Y gwerth sy’n gwahanu cynnyrch derbyniol (diogel) oddi wrth gynnyrch annerbyniol (anniogel) yw’r terfyn critigol. Rhaid diffinio’r lefel honno’n glir.
Dylech bennu terfynau critigol ar gyfer y mesur rheoli ac nid ar gyfer y perygl. Dylech sicrhau:
- Bod modd eu mesur
- Bod modd arsylwi arnynt
- Bod modd eu monitro mewn “amser real” (yn gyflym)
Caiff rhai terfynau critigol eu diffinio:
- Mewn deddfwriaeth
- Yng nghanllawiau a chodau ymarfer y diwydiant
Gallwch bennu terfynau critigol eraill:
- Drwy gasglu data arbrofol yn ystod treialon
- Drwy gael cyngor gan arbenigwyr sy’n meddu ar wybodaeth arbenigol
Ymhlith y meini prawf a ddefnyddir yn aml i bennu terfynau critigol mae:
- Tymheredd
- Amser
- Lefel lleithder
- pH (lefel asidedd)
- Aw (lefel y dŵr sydd ar gael i gynorthwyo perygl fel bacteria i dyfu)
- Dadansoddiadau cemegol
- Y clorin sydd ar gael
- Data goddrychol e.e. asesiadau/arsylwadau gweledol. O ran paramedrau sy’n dibynnu ar y synhwyrau, fel ymddangosiad a gwead y cynnyrch, bydd angen canllawiau clir ynghylch y gofynion er mwyn cydymffurfio, gan bennu arferion neu weithdrefnau neu ddarparu delweddau enghreifftiol (e.e. lluniau) o’r hyn sy’n dderbyniol.
Yn ychwanegol at y terfynau critigol, bydd rhai busnesau’n pennu lefelau targed.
Terfyn critigol: Maen prawf sy’n gwahanu cynnyrch derbyniol (diogel) oddi wrth gynnyrch annerbyniol (a allai fod yn anniogel).
Lefel darged: Gwerth a bennwyd ymlaen llaw ar gyfer y mesur rheoli y dangoswyd ei fod yn dileu perygl ar Bwynt Rheoli Critigol.
Goddefiant: Y gwerth rhwng y lefel darged a’r terfyn critigol.
Gwyriad: Methiant i gyrraedd terfyn critigol.
Dogfennau a chofnodion
Mae angen i chi gofnodi sut y bu i chi bennu’r terfyn critigol (gan gynnwys unrhyw ffynonellau gwybodaeth neu ddata a ddefnyddiwyd gennych).
Adolygu
Dylech bennu dyddiad i adolygu’r egwyddor hon, a dylech sicrhau bod adolygiad yn cael ei sbarduno os bydd unrhyw newid yn digwydd o fewn y cwmni neu os bydd gwybodaeth newydd ar gael (e.e. deddfwriaeth, perygl newydd yn dod i’r amlwg). Gweler Egwyddor 6.