Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae mesurau rheoli yn weithredoedd a/neu'n weithgareddau a gymerir i atal, dileu neu leihau perygl y byddwch chi wedi'i nodi.
Sut y cyflawnir y cam hwn?
Dim ond peryglon sylweddol (y rhai sy'n uwch na'r sgôr arwyddocaol yr ydych chi wedi'i phennu ymlaen llaw) y byddwch yn eu symud ymlaen i'r cam hwn.
Ar gyfer pob perygl sylweddol, cofnodwch pa gamau a/neu weithgareddau y mae gofyn eu cymryd i atal, dileu neu leihau'r perygl i lefel dderbyniol.
Mae mesurau rheoli yn aml yn cael eu drysu â monitro. Cynhelir gwaith monitro i sicrhau bod y mesur rheoli a roddwyd ar waith i reoli'r perygl yn gweithio. Dyma'r diffiniadau o “fesur rheoli” a “monitro” i'ch helpu i ddeall y gwahaniaeth:
Mesur rheoli
Unrhyw gamau a/neu weithgaredd y gellir eu defnyddio i atal neu ddileu perygl diogelwch bwyd neu ei leihau i lefel dderbyniol.
Monitro
Cynllunio a chynnal arsylwadau (observations) neu fesuriadau i asesu a yw Pwynt Rheoli Critigol (CCP) dan reolaeth.
Dylech gofio:
- Efallai y bydd angen mwy nag un mesur rheoli i reoli perygl penodol yn effeithiol. Er enghraifft, gallai fod angen defnyddio system canfod metel, cynnal a chadw'r system ganfod, a hyfforddiant ar ei defnyddio i osgoi'r perygl o gael darnau metel mewn bwyd.
- Gall un mesur rheoli reoli mwy nag un perygl. Er enghraifft, gall tymheredd olew ac amser ffrio fod yn fesur rheoli effeithiol ar gyfer lleihau nifer y Salmonela a Campylobacter mewn bwyd wedi'i ffrio.
- Nid yw mesurau rheoli bob amser yn cael eu cynnal ar yr un Cam Proses ag y mae'r perygl yn codi. Er enghraifft, gallai perygl yn ystod Cam 1 y Broses fod yn 'bresenoldeb metel mewn deunydd crai gan y cyflenwr’; gall y perygl hwn fod â nifer o fesurau rheoli gan gynnwys defnyddio cyflenwyr sydd wedi'u cymeradwyo ymlaen llaw yn unig, neu gyflenwi i fanyleb cytunedig. Bydd y mesurau rheoli hyn yn ymddangos yn ystod Cam 1 y Broses. Fodd bynnag, mae mesur rheoli yng Ngham 15 y Broses, sef 'system effeithiol i ganfod a gwrthod metel' hefyd yn fesur rheoli ar gyfer y perygl hwn.
Rhif y cam |
Disgrifiad o'r cam yn y broses |
Perygl ac achos posibl |
Mesur rheoli |
Monitro |
---|---|---|---|---|
10 |
Ffrio dwfn |
Bacteria yn goroesi gan nad yw bwyd wedi'i goginio ddigon: tymheredd olew isel neu amser coginio rhy fyr |
Tymheredd olew ac amser ffrio wedi'i nodi |
Gwirio bod tymheredd olew yn cael ei fesur yn barhaus i'w gymryd ar y cynnyrch cyntaf ar ddechrau'r sifft, bob 30 munud wedi hynny ac ar gynnyrch olaf y shifft. Amserydd lle gellir gosod larwm wrth roi pob swp yn y peiriant ffrio |
15 |
Canfod metel |
Cyflwyno metel o beiriannau sydd wedi torri a ddefnyddir mewn camau proses eraill |
System effeithiol i ganfod a gwrthod metel |
Gwirio'r peiriant canfod metel ar ddechrau rhediad, diwedd rhediad a phob 20 munud. Cynhelir y gwiriadau gan ddefnyddio Fferrus 1.5mm, Anfferrus 2.0mm a Dur Di-staen 3.0mm, a chaiff pob un ohonynt eu canfod a'u gwrthod gan y peiriant canfod metel
|
15 |
Canfod metel |
Cyflwyno metel o beiriannau sydd wedi torri a ddefnyddir mewn camau proses eraill |
Gofyniad hanfodol mewn gwaith cynnal a chadw ataliol wedi'i gynllunio |
Bydd gwaith cynnal a chadw arferol yn cael ei wneud fel yr amlinellir yn y weithdrefn cynnal a chadw ataliol wedi'i gynllunio PPM01 |
15 |
Canfod metel |
Cyflwyno metel o beiriannau sydd wedi torri a ddefnyddir mewn camau proses eraill |
Gofyniad Hyfforddi hanfodol |
Rhaid hyfforddi pob aelod o staff i weithredu a gwirio'r peiriant canfod metel |