Canllawiau cyffredinol ar ddefnyddio MyHACCP

1. Trosolwg

Mae gwefan MyHACCP wedi’i dylunio i fod yn hawdd i’w defnyddio. Ar ôl derbyn adborth gan ddefnyddwyr, rydym wedi ceisio sicrhau bod cyngor clir ar bob tudalen sy’n esbonio sut i lenwi’r tudalennau a sut i geisio cyngor ychwanegol os oes angen. Mae’n bosibl bod y ddogfen hon yn rhoi cyngor amlwg, ond dylai eich helpu i baratoi neu wella eich dealltwriaeth o’r tudalennau.

2. Dechrau astudiaeth newydd

I ddechrau astudiaeth newydd, ewch i’r dudalen 'Adnodd MyHACCP' a chlicio ar 'Dechrau astudiaeth newydd'.

O’r dudalen hon gallwch ddechrau cymaint o astudiaethau a mynnwch, ailddechrau hen astudiaethau a dileu astudiaethau diangen. 

3. Llywio o fewn astudiaeth

Wrth weithio ar astudiaeth, gallwch lywio mewn dwy ffordd.

Drwy ddefnyddio’r dolenni ar frig pob tudalen o’r astudiaeth.

4. Arbed eich atebion

Bydd clicio ar unrhyw fotwm sy’n eich llywio drwy’r astudiaeth yn arbed eich atebion.

Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw atebion ar y dudalen yn cael eu harbed wrth i chi:

  • glicio ar "Arbed y dudalen hon"; 
  • clicio ar "Arbed a pharhau";
  • clicio ar "Blaenorol";
  • clicio ar unrhyw eitem ar ddewislen MyHACCP.

5. Ceisio cyngor ar gwestiwn neu adran

Ar gyfer porwyr modern sy’n galluogi javascript:

Gallwch hofran dros y marc cwestiwn gwyrdd   i weld rhagor o gyngor ar gwestiwn penodol. Bydd blwch yn ymddangos gyda chyngor ychwanegol. Bydd y mwyafrif o’r blychau hyn yn cynnwys dolen i gael "Rhagor o wybodaeth".

Os ydych yn clicio ar "Rhagor o wybodaeth", bydd blwch yn ymddangos sy’n cynnwys rhagor o gymorth neu wybodaeth fanwl.

Mae’r cyngor hwn yn dod yn uniongyrchol o’r adran "Cymorth" ac mae modd ei weld yn yr adran honno hefyd.

Llywio o fewn 'Cymorth'

O fewn yr adran "Cymorth", gallwch ddefnyddio’r ddewislen ar ochr dde’r dudalen i lywio i dudalennau eraill o fewn yr adran.

6. Negeseuon gwall

Mae angen ateb (ateb penodol weithiau) i rai o’r cwestiynau ar y wefan.

Os ydych chi’n arbed y dudalen heb ateb y cwestiynau angenrheidiol, bydd negeseuon gwall yn ymddangos ar frig y dudalen.

7. Adolygu tudalennau i weld negeseuon gwall

Mae gan yr adrannau ar gamau paratoi ac egwyddorion dudalen "Adolygu". Ar y tudalennau hyn, gallwch weld statws pob cam o fewn yr adrannau. Bydd hyn yn dangos os oes unrhyw wallau yn yr adrannau hyn. Mae hyn yn ddefnyddiol i weld unrhyw adrannau sydd angen eu hadolygu.

8. Cwblhau neu orffen astudiaeth

Pan fydd "Wedi gorffen" yn ymddangos wrth ymyl pob cam, gallwch glicio ar "Gorffen yr astudiaeth".

Ar y dudalen "Gorffen yr astudiaeth" gallwch wneud dau beth:

  • marcio eich astudiaeth fel "Wedi gorffen"
    • Mae hyn yn newid statws yr astudiaeth i "Wedi gorffen", sy'n ddefnyddiol os oes gennych sawl astudiaeth ac mae angen gweld pa rai sydd wedi'u gorffen.
    • Ni fydd marcio eich astudiaeth fel "Wedi gorffen" yn eich atal rhag golygu'r astudiaeth ymhellach.
  • lawrlwytho eich PDF
    • Bydd clicio ar "Lawrlwytho eich astudiaeth HACCP" yn creu fersiwn PDF o'ch astudiaeth HACCP.

9. Ailddechrau astudiaeth

Gallwch ailddechrau astudiaeth ar unrhyw adeg. Mae hyn yn golygu y gallwch ddechrau astudiaeth, ei harbed, allgofnodi neu gau eich porwr a dychwelyd yn hwyrach i barhau â’r astudiaeth. Pan fyddwch am ailddechrau hen astudiaeth, ewch ati i fewngofnodi a chlicio ar "Adnodd MyHACCP". Yna, cliciwch ar y botwm "Ailddechrau" wrth ymyl yr astudiaeth dan sylw.

10. Lawrlwytho dogfen PDF

Gallwch lawrlwytho eich astudiaeth HACCP fel PDF ar unrhyw adeg drwy’r broses, a hynny drwy glicio ar "Adnodd MyHACCP".

Mae’n werth nodi na fydd y data o adran benodol yn cael ei gynnwys yn y PDF os yw’r adran yn anghyflawn yn yr astudiaeth.

11. Copïo astudiaeth bresennol

Gallwch hefyd gopïo astudiaeth bresennol i fod yn sail i astudiaeth newydd. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol os oes angen i chi greu astudiaethau ar gyfer dau gynnyrch sy'n cael eu cynhyrchu gyda phrosesau tebyg.

Gallwch wneud hyn o'r dudalen "Adnodd MyHACCP". Os oes gennych un neu fwy o astudiaethau, bydd y botwm "Copïo astudiaeth bresennol" yn ymddangos.

Bydd clicio ar y botwm hwn yn agor tudalen arall.

Dewiswch yr astudiaeth i'w chopïo o'r ddewislen a chlicio ar y botwm "Cyflwyno".

Bydd hyn yn copïo cynnwys yr astudiaeth i greu astudiaeth newydd, ac ar y dudalen "Camau Paratoi: Cyflwyniad" gallwch roi enw i'r astudiaeth newydd.

Gan y bydd cynnwys yr astudiaeth newydd yr un peth â'r astudiaeth flaenorol, bydd angen i chi adolygu pob cam paratoi ac egwyddor a diwygio adrannau er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir ac yn berthnasol i'ch astudiaeth newydd.

Gallwch hefyd gopïo astudiaeth bresennol drwy glicio ar "Rhagor o opsiynau" ar ochr dde'r astudiaeth dan sylw. Bydd clicio ar "Copïo" yn y ddewislen yn copïo'r astudiaeth, ac ar y dudalen "Camau Paratoi: Cyflwyniad" gallwch roi enw i'r astudiaeth newydd.